Gwybodaeth gyffredinol
Diweddaru’r safle
Ydych chi’n rhestru rhifau symudol/ffacs ar wefan y Llyfr Ffôn?
Newid fy manylion yn y Llyfr Ffôn ar-lein / ar eich cronfa ddata?
Pam nad oes modd cael hyd i gyfeiriad o rif ffôn?
Llenwi meysydd chwilio
Oes angen nodi tref neu god post; rwyf am chwilio ar draws y wlad?
Wrth chwilio am ‘enw preswyl’, pam yw’r system yn gofyn pa un o ddwy dref pan ddylai fod yn amlwg (ee Newport, Gwent neu Newport, Isle of Wight)?
Wrth chwilio ardal tref benodol, bydd y system yn cynnig canlyniadau o ardaloedd eraill. Pam?
Pam nad oes modd chwilio am rifau Gweriniaeth Iwerddon?
Osgoi camgymeriadau
Enw
Priflythrennau
Lleoliad
Tref
Stryd
Cod post
Results
Anfon testun?
Gweld map?
Methu cael hyd i rif, ond yn sicr fod yr enw a’r cyfeiriad yn iawn?
Mae cod y rhif yn wahanol iawn i’r un rwy’n cofio. Pam?
Rwyf yn gallu cael rhif wrth alw 118500 ond nid ar y Llyfr Ffôn ar-lein?
Cynnyrch arall
Pa wasanaethau rhifau eraill sydd ar gael?
Defnyddio’r gwasanaeth ar WAP
Beth yw 118500?
Gwybodaeth bellach
Hanes chwilio
Mae gwefan y Llyfr Ffôn yn cynnwys gwybodaeth am rifau Pobl a Busnesau, yn cynnwys cyrff fel adrannau’r llywodraeth ac elusennau. Fodd bynnag, gwasanaeth rhifau ffôn yw hwn nid gwasanaeth cyfeiriadau post a byddwn ond yn cofnodi manylion cwsmeriaid (preswyl a busnes) y mae eu rhifau’n ymddangos yn Llyfrau Ffôn argraffedig BT.
Ymholiadau cyffredinol am y wefan, cysylltwch â ni ar-lein neu galwch 0845 845 0192
Byddwn yn diweddaru’r cronfeydd data bob diwrnod a bydd y newidiadau hynny i’w gweld ar y Llyfr Ffôn ar-lein ar ôl prosesu’r holl systemau perthnasol – fel arfer erbyn y diwrnod gwaith nesaf.
Ydych chi’n rhestru rhifau symudol/ffacs ar wefan y Llyfr Ffôn?
Rhestrir rhifau symudol a ffacs ar gais cwsmeriaid. Mae’r wefan yn defnyddio cronfa ddata y mae’n rhaid i bob cwmni telathrebu a darparwr gwasanaeth trwyddedig drosglwyddo data eu cwsmeriaid iddi. Os am ychwanegu rhif symudol neu ffacs at eich cofnod busnes dosbarthol, cysylltwch â ni.
Newid fy manylion yn y Llyfr Ffôn ar-lein/ar eich cronfa ddata?
Mae BT yn defnyddio cronfa ddata OSIS y mae’n rhaid i bob cwmni telathrebu trwyddedig drosglwyddo data eu cwsmeriaid iddi.
Os BT yw eich darparwr gwasanaeth a’ch bod am newid eich cofnod galwch ni ar:
0800 800 150 cofnodion preswyl
0800 800 152 cofnodion busnes
Os yn defnyddio cwmni arall, bydd rhaid i chi gysylltu â hwnnw oherwydd nid yw BT yn cael newid y gronfa ddata ganolog ar ran darparwyr gwasanaethau ffôn eraill.
Unwaith byddwch wedi gofyn eich darparwr gwasanaeth i newid y data, fe ychwanegir at gronfa ddata OSIS a dosberthir i bob darparwr gwasanaeth cyfeiriadur, yn cynnwys BT.
Pam nad oes modd cael hyd i gyfeiriad o rif ffôn?
Ni fydd BT yn darparu unrhyw wasanaeth sy’n gallu cynnig adnoddau chwilio gwrth-droi. Byddai hynny’n torri amodau’r Ddeddf Diogelu Data.
Gallwch ddefnyddio llythrennau bras neu fach wrth lenwi’r gwahanol feysydd.
Oes angen nodi tref neu god post; rwyf am chwilio ar draws y wlad?
Mae gwasanaeth ymholiadau cyfeiriadur ar-lein BT yn defnyddio cronfa ddata OSIS y mae’n rhaid i bob cwmni telathrebu trwyddedig drosglwyddo data eu cwsmeriaid iddi. Cesglir y data gan gwsmeriaid at y diben penodol 'pan fydd yn derbyn enw a lleoliad, bydd yn cynnig rhif'. Byddai unrhyw newid i’r defnydd o ddata cwsmeriaid heb ganiatâd pob unigolyn yn torri amodau’r Ddeddf Diogelu Data.
Wrth chwilio am ‘enw preswyl’, pam yw’r system yn gofyn pa un o ddwy dref pan ddylai fod yn amlwg (ee Newport, Gwent neu Newport, Isle of Wight)?
Pan fydd mwy nag un dref yn rhannu enw, ni fydd y system yn gallu penderfynu fod cwsmer am gael un dref arbennig – dim ots pa mor enwog yw hi.
Wrth chwilio ardal tref benodol, bydd y system yn cynnig canlyniadau o ardaloedd eraill. Pam?
Gall fod sawl rheswm. Mae gwefan Llyfr Ffôn BT yn defnyddio cronfa ddata OSIS y mae’n rhaid i bob cwmni telathrebu trwyddedig drosglwyddo data eu cwsmeriaid iddi. Mae rhai cwmnïau yn defnyddio ardaloedd gwahanol ar gyfer eu rhifau ac o ganlyniad bydd chwilio’n datgelu rhifau o ardaloedd tu allan i’r maes chwilio gwreiddiol. Yn ogystal, bydd rhai cwsmeriaid yn gofyn i’r cyfeiriadur gynnwys eu rhifau wrth i bobl chwilio trefi eraill. Os am chwilio ardal lai, triwch nodi rhan gyntaf y cod post (ee DE21) yn y maes lleoliad yn lle enw.
Pam nad oes modd chwilio am rifau Gweriniaeth Iwerddon?
Mae gwasanaeth ymholiadau cyfeiriadur ar-lein BT yn defnyddio cronfa ddata OSIS y mae’n rhaid i bob cwmni telathrebu trwyddedig drosglwyddo data eu cwsmeriaid iddi. Mae’r gronfa ddata hon yn cynnwys rhifau cwsmeriaid ffôn y Deyrnas Unedig ac Ynysoedd y Sianel ond nid rhifau Gweriniaeth Iwerddon. Mae data’r Weriniaeth yn eiddo cwmnïau telathrebu annibynnol. Ar hyn o bryd mae hawl gan BT i ddarparu’r rhifau hynny drwy ein gwasanaeth ymholiadau cyfeiriadur llais 118 500 yn unig.
Wrth chwilio am rif person rhaid nodi cyfenw.
Gallwch ddefnyddio nod-chwilio (* ar ôl o leiaf 4 cymeriad) os yn ansicr o’r sillafiad.
Gallwch gael hyd i enwau dwbl wrth nodi rhan o’r enw, neu’r ddwy ran gyda gofod neu gysylltnod rhyngddynt. Er enghraifft, bydd Smith yn cael hyd i Bryce-Smith ond pob Smith arall hefyd. Bydd nodi Bryce-Smith neu Bryce Smith yn cael hyd i bob enw sy’n cynnwys y ddau enw Bryce a Smith, mewn unrhyw drefn
Nodwch briflythrennau wrth chwilio am rif person yn unig. Gallwch wneud hynny o dan opsiwn ‘chwilio manwl’ ar gyfer ‘enw preswyl’.
Trïwch chwilio yn ôl cyfenw a lleoliad gyntaf a dim ond nodi priflythrennau os bydd y system yn dangos llawer o enwau posibl.
Wrth nodi mwy nag un briflythyren, gallwch eu teipio gyda dot rhwng y llythrennau neu’r ddwy lythyren gyda’i gilydd heb unrhyw ofod. Er enghraifft, nodi C.J.Rees fel CJ nid C J
Yn ogystal, wrth nodi priflythrennau cofiwch fod enwau rhai pobl yn wahanol i briflythrennau’r enw ffurfiol, ee Tony yn gallu dod o dan A am Anthony.
Rhaid nodi lleoliad y person rydych yn chwilio amdano yn y Deyrnas Unedig. Gallwch wneud hynny wrth roi un ai enw’r dref neu ran gyntaf y cod post (ee DE21). Peidiwch â nodi’r ddau.
Gallwch nodi’r dref a’r stryd wrth ddewis ‘chwilio manwl’, gan ddefnyddio’r maes stryd i gyfyngu eich chwilio o fewn y dref yn yr un modd ag y byddai’r maes priflythrennau wrth chwilio am enw person.
Os yn ansicr o sillafiad tref, trïwch nod-chwilio (4 llythyren ac yna *).
Mae chwilio ardal Llundain yn gallu profi’n anodd oherwydd ei maint. Os yn derbyn gormod o enwau, trïwch gyfyngu’r chwilio i ran o’r ddinas wrth nodi rhan gyntaf y cod post ee WC1A neu SW19 yn lle London yn y maes tref, neu lenwi’r maes stryd o dan ‘chwilio manwl’.
Gallwch nodi enw stryd er mwyn helpu i gael hyd i berson wrth fynd i’r opsiwn ‘Chwilio manwl’ ar y dudalen ‘Enw preswyl’.
Gallwch nodi cymaint o gymeriadau ag y mynnwch ar gyfer adeilad neu stryd.
Gallwch roi enw llawn stryd yn cynnwys ‘Street’, ‘St’, ‘Road’, ‘Rd’ etc, enw’r stryd yn unig (ee ‘High’) neu ran o’r enw ac yna nod-chwilio (“*”) (ee ‘Lond*’ yn lle ‘London Road’).
Trïwch chwilio yn ôl cyfenw a lleoliad gyntaf a dim ond nodi enw stryd os datgelir llawer o ganlyniadau, neu os awgrymwn defnyddio’r opsiwn ‘Chwilio manwl’.
Nodwch ran gyntaf y cod post ee DE21 neu L2 os am gyfyngu’r chwilio ac yn gwybod pa ran o dref rydych am chwilio. Gall hynny fod yn ddefnyddiol iawn wrth chwilio o fewn dinas fawr neu am enw cyffredin. Wrth ddefnyddio’r maes cod post bydd yn bwysig peidio enwi tref hefyd.
Os yn gwybod y cod post llawn, rhowch yn y maes lleoliad, ond dilynwch y fformat iawn ee “DE21 6BA” NID “DE216BA”. Ni fydd y system yn derbyn amrywiaethau eraill ar god post, heblaw am y rhan gyntaf neu’r cod post cyflawn yn y fformat iawn.
Yn anaml iawn, bydd cyfeiriad person tu allan i god post tref fawr hyd yn oed pan fydd yn agos ati. Er enghraifft, mae cod post Headley yn dechrau KT er ei bod yn agos iawn at Guildford (cod post GU). Bryd hynny, ni fydd y system yn gallu cael hyd i’r rhif byddwch yn chwilio amdano.
Ar ôl clicio ar linc ‘Anfon testun’ gallwch nodi rhif symudol i dderbyn rhif person mewn neges destun. Gallwch anfon hyd at bum rhif at rif symudol unigol bob dydd.
Clicio ar y linc ‘Map’ o dan y canlyniad. Gallwch chwyddo neu leihau map o leoliad y person.
Clicio ar y linc ‘Nôl’ uwch ben y botwm ‘Chwyddo’, neu fotwm ‘Back’ ar eich porwr i ddychwelyd i’r tudalen canlyniadau.
Methu cael hyd i rif, ond yn sicr fod yr enw a’r cyfeiriad yn iawn?
Efallai bydd y person wedi dewis peidio cael ei restru (ex-directory). Er mwyn diogelu preifatrwydd cwsmeriaid sydd wedi dewis felly ni fyddwn yn datgelu eu manylion.
Yn achos rhif heb ei restru, ni fyddwn yn gallu nodi’r ffaith ar-lein ond efallai gallwn gadarnhau hynny drwy ein gwasanaeth cyfeiriadur llais 118 500 - gweler isod.
Mae cod y rhif yn wahanol iawn i’r un rwy’n cofio. Pam?
Newidiwyd nifer o’r codau dros y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys codau rhifau premiwm a symudol. Y newid mawr diwethaf oedd 28 Ebrill 2001 ond cyflwynwyd rhai codau newydd ers hynny. Mae manylion pellach ar wefan Big Number OFCOM drwy www.ofcom.org.uk
Rwyf yn gallu cael rhif wrth alw 118500 ond nid ar y Llyfr Ffôn ar-lein?
Bydd rhai cwsmeriaid yn gofyn i ni ddarparu eu manylion ar wasanaethau llais BT yn unig. A bydd y cwsmeriaid hynny hefyd yn dewis peidio â bod yn y Llyfr Ffôn argraffedig neu ar-lein.
Pa wasanaethau rhifau eraill sydd ar gael?
Rydym yn cynnig amryw wasanaethau cyfeiriadur a Llyfr Ffôn eraill sy’n gallu helpu pobl i gael hyd i rifau ffôn preswyl a busnes. Maent yn cynnwys Llyfrau Ffôn print, CD-Roms ac ymholiadau cyfeiriadur llais.
Mae’n hawdd defnyddio ffôn WAP i chwilio am rif ar wefan y Llyfr Ffôn. Nodwch y cyfeiriad URL ‘wap.bt.com’ ar eich ffôn (cyfarwyddiadau yn llyfryn eich ffôn). Ar y brif ddewislen ewch i "Directories", ac yna dewis pa fath o chwilio, sef busnes yn ôl enw neu berson yn ôl enw (NB: nid oes gwasanaeth busnes yn ôl math ar hyn o bryd). Llenwch y meysydd enw a lleoliad yn unig. Os yw enw’r person yn y Llyfr Ffôn, bydd modd cael hyd i’r rhif.
118 500 yw gwasanaeth Ymholiadau Cyfeiriadur llais BT. Erbyn hyn, mae’n cynnig chwilio yn ôl math busnes ynghyd ag enw busnes neu berson, a chysylltu cwsmeriaid â’r rhan fwyaf o’r rhifau ar y rhestrau. Am fanylion pellach a rhestr o wasanaethau 118 500, Cliciwch yma.