Gwybodaeth gyffredinol
Diweddaru’r safle

Chwilio
Cael hyd i wlad sy’n gysylltiedig â chod deialu
Cael hyd i god deialu gwlad

Galwadau ffôn rhyngwladol
Galw rhywun mewn gwlad dramor?
Galw gartref o wlad dramor?

Cynnyrch arall
Beth yw 118505?

Gwybodaeth gyffredinol

Mae adran codau rhyngwladol y Llyfr Ffôn ar-lein yn eich helpu i chwilio am godau deialu gwledydd, ynghyd â chodau prif ddinasoedd y gwledydd hynny, neu wlad sy’n gysylltiedig â chod deialu penodol.

Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am bob gwlad, yn cynnwys manylion megis prif ddinas, arian, ieithoedd a baneri cenedlaethol. A manylion cylchfaoedd amser a thonau ffonau wrth wneud galwadau i ac o fewn pob gwlad. Ble’n bosibl, byddwn hefyd yn darparu linc i wefan cyfeiriadur sy’n darparu rhifau ffôn pobl a busnesau o fewn y wlad honno.

Diweddaru’r safle?
Bydd codau deialu rhyngwladol yn newid o bryd i’w gilydd. Byddwn yn diweddaru ein data unwaith y derbyniwn gadarnhad o’r newidiadau.

Nôl i’r cynnwys

Llenwi meysydd chwilio

Dewis y linc codau rhyngwladol er mwyn chwilio.

    Cael hyd i wlad sy’n gysylltiedig â chod deialu:
  • Dewis botwm ‘lleoliad yn ôl cod deialu’ uwch ben y maes chwilio.
  • Dewis y saeth i lawr ar ochr dde’r maes chwilio. Bydd yn dangos rhestr o godau deialu gydag enw’r wlad i’r dde o’r cod.
  • Dewis y cod gwlad perthnasol.

    Cael hyd i god deialu gwlad:
    Mae sawl ffordd o chwilio am godau deialu -
  1. Yn gyntaf, dewis y botwm ‘cod deialu yn ôl lleoliad’ uwch ben y maes chwilio. Yna dewis saeth i lawr ar ochr dde’r maes chwilio. Bydd yn dangos rhestr o wledydd. Dewiswch y wlad berthnasol.
  2. Os yn gwybod lleoliad bras y wlad, dewis y rhanbarth (ee ‘Asia’). Yna dewis y wlad (ee ‘Thailand’). Bydd hynny’n dangos manylion y wlad a’r codau deialu, gyda linciau i dudalennau eraill megis ‘Cylchfaoedd Amser’ a ‘Tonau Deialu’.
  3. Os yn gwybod enw’r wlad gallwch hefyd ei dewis o restr gwledydd. Dewiswch y llythyren gyntaf ac yna’r wlad o’r rhestr fydd yn ymddangos. Gall chwilio fel hyn fod yn ddefnyddiol os yn ansicr o sillafiad gwlad neu ranbarth.
  4. Gallwch ddychwelyd i’r dudalen gyntaf ar unrhyw amser wrth ddewis y linc ‘Cyfeiriadur gwlad’ i’r dde o’r maes chwilio.

Nôl i’r cynnwys

Galwadau ffôn rhyngwladol

Galw rhywun mewn gwlad dramor?

Os am alw gwlad dramor dilynwch yr isod:

  1. Deialu cod mynediad rhyngwladol y wlad rydych ynddi ee '00' o’r Deyrnas Unedig
  2. Deialu cod y wlad ee '1' ar gyfer yr Unol Daleithiau
  3. Deialu’r cod ardal (os oes un) ee '415' ar gyfer San Francisco
  4. Yn olaf, deialu rhif y person unigol

Felly, os am alw rhywun yn San Francisco deialwch 00 1 415 gan ddilyn gyda rhif y person.

How do I call home when I'm abroad?

Mae llawer o wledydd yn cynnwys y Deyrnas Unedig yn rhoi '0' o flaen y cod ardal ee 020 ar gyfer Llundain ac 01494 High Wycombe.

Peidiwch â deialu’r '0' cyntaf wrth alw o du allan y wlad. Felly, os am alw rhywun yn High Wycombe o Ffrainc byddech yn deialu 00 (cod mynediad rhyngwladol) 44 (cod y Deyrnas Unedig) 1494 a rhif y person.

Mae rhai eithriadau i’r drefn hon:

Wrth alw’r Eidal a chyn wledydd yr Undeb Sofietaidd, rhaid deialu’r '0' cyntaf.

Wrth ddeialu codau ardal y Ffindir, Gwlad yr Iâ & Twrci peidiwch â deialu’r '0' neu’r '9' cyntaf."

Am wybodaeth bellach edrychwch yn yr adran Codau rhyngwladol.

Nôl i’r cynnwys

Cynnyrch arall

Beth yw 118505?
118 500 yw gwasanaeth Ymholiadau Cyfeiriadur llais BT. Erbyn hyn, mae’n cynnig chwilio yn ôl math busnes ynghyd ag enw busnes neu berson, a chysylltu cwsmeriaid â’r rhan fwyaf o’r rhifau ar y rhestrau. Am fanylion pellach a rhestr o wasanaethau 118 500, Cliciwch yma.

Nôl i’r cynnwys

* Galwadau i 118505 yn costio £1.99 y funud neu ran o funud, plws pris cysylltu o 69c. Galwadau o linellau sefydlog BT. Pob pris yn cynnwys TAW. Prisiau o ffonau symudol a rhwydweithiau eraill yn amrywio.