Gwybodaeth gyffredinol
Diweddaru’r safle
Ydych chi’n rhestru rhifau symudol/ffacs ar wefan y Llyfr Ffôn?
Newid manylion busnes dosbarthol yn y Llyfr Ffôn ar-lein/ar eich cronfa ddata?
Newid manylion preswyl neu fusnes yn y Llyfr Ffôn ar-lein / ar eich cronfa ddata?
Llenwi meysydd chwilio
Chwilio am fusnes yn ôl math
Oes angen nodi tref neu god post; rwyf am chwilio ar draws y wlad?
Pam nad oes modd chwilio am rifau Gweriniaeth Iwerddon?
Osgoi camgymeriadau
Maes math busnes
Maes lleoliad
Defnyddio codau post
Canlyniadau
Sut i chwilio os na fydd y canlyniadau’n cynnwys y math busnes iawn?
Sut i newid y chwilio os na fydd yn datgelu’r canlyniadau angenrheidiol?
Wrth chwilio tref arbennig, bydd y system yn dangos cofnodion o ardaloedd eraill. Pam?
Oes modd newid trefn y canlyniadau busnes?
Beth yw’r linc rhifau pellach?
Anfon testun?
Gweld map?
Gwefan hysbysebwr?
Anfon ebost at fusnes gyda hysbyseb?
Gwybodaeth hysbysebwr?
Nid wyf yn gallu gweld hysbyseb busnes ar-lein - mae’n ymddangos fel blwch gyda chroes goch ynddo?
Nid wyf yn gallu cael hyd i fusnes, ond mae yn bodoli?
Rwyf yn gallu cael rhif wrth alw 118500 ond nid ar y Llyfr Ffôn ar-lein?
Cynnyrch arall
Pa wasanaethau rhifau eraill sydd ar gael?
Defnyddio’r gwasanaeth ar WAP
Beth yw 118500?
Gwybodaeth bellach
Hanes chwilio
Mae gwefan y Llyfr Ffôn yn cynnwys gwybodaeth am rifau Pobl a Busnesau, yn cynnwys cyrff fel adrannau’r llywodraeth ac elusennau. Fodd bynnag, gwasanaeth rhifau ffôn yw hwn nid gwasanaeth cyfeiriadau post a byddwn ond yn cofnodi manylion cwsmeriaid (preswyl a busnes) y mae eu rhifau’n ymddangos yn Llyfrau Ffôn argraffedig BT.
Ymholiadau cyffredinol am y wefan, cysylltwch â ni ar-lein neu galwch 0845 845 0192
Byddwn yn diweddaru’r cronfeydd data bob diwrnod a bydd y newidiadau hynny i’w gweld ar y Llyfr Ffôn ar-lein ar ôl prosesu’r holl systemau perthnasol – fel arfer erbyn y diwrnod gwaith nesaf.
Ydych chi’n rhestru rhifau symudol/ffacs ar wefan y Llyfr Ffôn?
Rhestrir rhifau symudol a ffacs ar gais cwsmeriaid. Mae’r wefan yn defnyddio cronfa ddata y mae’n rhaid i bob cwmni telathrebu a darparwr gwasanaeth trwyddedig drosglwyddo data eu cwsmeriaid iddi. Os am ychwanegu rhif symudol neu ffacs at eich cofnod busnes dosbarthol, cysylltwch â ni.
Newid manylion busnes dosbarthol yn y Llyfr Ffôn ar-lein / ar eich cronfa ddata?
Rydym yn cynnig amryw becynnau hysbysebu yn y Llyfr Ffôn argraffedig ac ar-lein. Am fanylion pellach, ewch i ‘Hysbysebu gyda ni’ neu cysylltwch â ni.
Os yw eich hysbyseb ar-lein yn anghywir yn yr adran Math Busnes ond yn gywir yn y Llyfr Ffôn argraffedig, galwch 0845 845 0192.
Newid manylion preswyl neu fusnes yn y Llyfr Ffôn ar-lein / ar eich cronfa ddata?
Mae BT yn defnyddio cronfa ddata OSIS y mae’n rhaid i bob cwmni telathrebu trwyddedig drosglwyddo data eu cwsmeriaid iddi.
Os BT yw eich darparwr gwasanaeth a’ch bod am newid eich cofnod galwch ni ar:
0800 800 150 cofnodion preswyl
0800 800 152 cofnodion busnes
Os yn defnyddio cwmni arall, bydd rhaid i chi gysylltu â hwnnw oherwydd nid yw BT yn cael newid y gronfa ddata ganolog ar ran darparwyr gwasanaethau ffôn eraill.
Unwaith byddwch wedi gofyn eich darparwr gwasanaeth i newid y data, fe ychwanegir at gronfa ddata OSIS a dosberthir i bob darparwr gwasanaeth cyfeiriadur, yn cynnwys BT.
Gallwch ddefnyddio llythrennau bras neu fach wrth lenwi’r gwahanol feysydd.
Oes angen nodi tref neu god post; rwyf am chwilio ar draws y wlad?
Pam nad oes modd chwilio am rifau Gweriniaeth Iwerddon?
Mae gwasanaeth ymholiadau cyfeiriadur ar-lein BT yn defnyddio cronfa ddata OSIS y mae’n rhaid i bob cwmni telathrebu trwyddedig drosglwyddo data eu cwsmeriaid iddi. Mae’r gronfa ddata hon yn cynnwys rhifau cwsmeriaid ffôn y Deyrnas Unedig ac Ynysoedd y Sianel ond nid rhifau Gweriniaeth Iwerddon. Mae data’r Weriniaeth yn eiddo cwmnïau telathrebu annibynnol. Ar hyn o bryd mae hawl gan BT i ddarparu’r rhifau hynny drwy ein gwasanaeth ymholiadau cyfeiriadur llais 118 500 yn unig.
Os yn chwilio am fusnes ble nad ydych yn sicr o’r enw, dewiswch y linc ‘Math busnes’.
Dyma’r dudalen fydd yn agor wrth i chi lansio’r Llyfr Ffôn ar-lein drwy www.thephonebook.bt.com
Nodwch y math busnes neu ddisgrifiad yn y maes chwilio. Byddwch yn gryno er mwyn cael y canlyniadau gorau.
Rhaid nodi lleoliad y math busnes o fewn y Deyrnas Unedig. Gallwch wneud hynny wrth roi un ai enw’r dref neu ran gyntaf y cod post yn y blwch lleoliad. Peidiwch â rhoi’r ddau.
Mae chwilio ardal Llundain yn gallu profi’n anodd oherwydd ei maint. Os yn rhoi ‘London’ yn y maes ‘Lleoliad’, byddwn yn chwilio yn ardal canol Llundain. Yn achos mathau busnes poblogaidd (ee Restaurants), bydd yn rhoi canlyniadau o fewn ardal fach yng nghanol Llundain. Os am gael canlyniadau o ran arall o Lundain, trïwch gyfyngu’r chwilio wrth nodi enw ardal (ee ‘Hammersmith’) neu ddefnyddio rhan gyntaf y cod post ee WC1A neu SW19, yn hytrach na London yn y maes ‘Lleoliad’. Gallwch hefyd chwilio am fath busnes o gwmpas gorsaf tiwb wrth nodi enw gorsaf (ee ‘Holborn Tube’) yn y maes ‘Lleoliad’
Nodwch ran gyntaf y cod post ee DE21 neu L2 os am gyfyngu’r chwilio ac yn gwybod pa ran o dref rydych am chwilio. Gall hynny fod yn ddefnyddiol iawn wrth chwilio o fewn dinas fawr ac am enw cyffredin. Wrth ddefnyddio’r maes cod post bydd yn bwysig peidio enwi tref hefyd.
Sut i chwilio os na fydd y canlyniadau’n cynnwys y math busnes iawn?
Sut i newid y chwilio os na fydd yn datgelu’r canlyniadau angenrheidiol?
Wrth chwilio tref arbennig, bydd y system yn dangos cofnodion o ardaloedd eraill. Pam?
Oes modd newid trefn y canlyniadau busnes?
Beth yw’r linc rhifau pellach?
Ar ôl clicio ar linc ‘Anfon testun’ gallwch nodi rhif symudol i dderbyn rhif busnes mewn neges destun. Gallwch anfon hyd at bum rhif at rif symudol unigol bob dydd.
Clicio ar y linc ‘Map’ ger cyfeiriad y busnes. Gallwch chwyddo neu leihau map o leoliad busnes.
Cliciwch ar y linc ‘Nôl’ uwch ben y botwm ‘Chwyddo’, neu fotwm ‘Back’ ar eich porwr i ddychwelyd i’r tudalen canlyniadau.
Anfon ebost at fusnes gyda hysbyseb?
Nid wyf yn gallu gweld hysbyseb busnes ar-lein - mae’n ymddangos fel blwch gyda chroes goch ynddo?
Nid wyf yn gallu cael hyd i fusnes, ond mae yn bodoli?
Ni fydd pob busnes yn dewis cael cofnod ar y rhestr ddosbarthol (math busnes). Os yn gwybod enw’r busnes, triwch chwilio yn ôl enw busnes.
Rwyf yn gallu cael rhif wrth alw 118500 ond nid ar y Llyfr Ffôn ar-lein?
Bydd rhai cwsmeriaid yn gofyn i ni ddarparu eu manylion ar wasanaethau llais BT yn unig. A bydd y cwsmeriaid hynny hefyd yn dewis peidio â bod yn y Llyfr Ffôn.
Pa wasanaethau rhifau eraill sydd ar gael?
Rydym yn cynnig amryw wasanaethau cyfeiriadur a Llyfr Ffôn eraill sy’n gallu helpu pobl i gael hyd i rifau ffôn preswyl a busnes. Maent yn cynnwys Llyfrau Ffôn print, CD-Roms ac ymholiadau cyfeiriadur llais. Cliciwch yma.
Mae’n hawdd defnyddio ffôn WAP i chwilio am rif ar wefan y Llyfr Ffôn. Nodwch y cyfeiriad URL ‘wap.bt.com’ ar eich ffôn (cyfarwyddiadau yn llyfryn eich ffôn). Ar y brif ddewislen ewch i "Directories", ac yna dewis pa fath o chwilio, sef busnes yn ôl enw neu berson yn ôl enw (NB: nid oes gwasanaeth busnes yn ôl math ar hyn o bryd). Llenwch y meysydd enw a lleoliad yn unig. Os yw enw’r person yn y Llyfr Ffôn, bydd modd cael hyd i’r rhif.
118 500 yw gwasanaeth Ymholiadau Cyfeiriadur llais BT. Erbyn hyn, mae’n cynnig chwilio yn ôl math busnes ynghyd ag enw busnes neu berson, a chysylltu cwsmeriaid â’r rhan fwyaf o’r rhifau ar y rhestrau. Am fanylion pellach a rhestr o wasanaethau 118 500, cliciwch yma.