Ymgyrchoedd a Hyrwyddiadau

Bydd ymgyrch hysbysebu ddiweddaraf y Llyfr Ffôn yn helpu i gynyddu defnydd ac ymwybyddiaeth o’r cyfeiriadur dosbarthol, wrth gyflwyno’r neges fod mwy o ffyrdd o gael hyd i bethau gyda Llyfr Ffôn BT.

Hysbyseb teledu
Mae Adam a’i deulu - sêr ymgyrch hysbysebu lwyddiannus BT yn ymddangos yn hysbyseb teledu diweddaraf y Llyfr Ffôn - Clutter. Mae’r stori’n olrhain sut mae Adam (Kris Marshall) yn cael hyd i bopeth ar gyfer ei deulu newydd.

The Phone Book TV Ad Mae Adam yn edrych drwy’r Llyfr Ffôn gan chwilio am syniadau i dacluso’r tŷ – ar ôl ystyried ‘llogi sgip’ am funud, mae’n gweld ‘atebion storio’ yn y cyfeiriadur dosbarthol ac yn defnyddio’r system storio newydd i dacluso ystafelloedd y plant a storio’r holl deganau a gêmau!

Mae’r hysbyseb yn dangos sut mae Llyfr Ffôn BT yn cynnig ffordd hwylus a chyflym o gysylltu â chynnyrch a gwasanaethau.