Y Llyfr Ffôn

BT Phone Book

Mae Llyfr Ffôn BT yn cynnwys cyfeiriadur dosbarthol lliw, A-Z Busnes ac A-Z Preswyl. Mae’r 168 rhifyn lleol yn darparu cronfa gynhwysfawr o wybodaeth leol. Dosberthir i dros 25 miliwn1 cartref a busnes ar draws y Deyrnas Unedig2.

Chwilio am yswiriant neu fenthyciad?
Mae Llyfr Ffôn BT yn cynnwys dros 1900 dosbarthiad – o Arlunwyr i Wasanaethau Garddio felly dim ots beth rydych yn chwilio amdano, gallwch gael hyd iddo gyda Llyfr Ffôn BT.

Ac erbyn hyn mae mwy o resymau nag erioed i ddefnyddio’r Llyfr Ffôn. Os am brynu car newydd, adnewyddu eich cartref neu bolisi yswiriant, mae’n haws nag erioed i gael hyd i’r wybodaeth berthnasol. Gallwch gael hyd i bopeth gyda’r Llyfr Ffôn a ddosberthir i bob cartref a gweithle – neu gallwch chwilio gwefan y Llyfr Ffôn yn bt.com.

  1. Isafswm dosbarthiad Llyfr Ffôn BT
  2. Ac eithrio Hull, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel

Roedd BT yn berchen Yellow Pages ond gwerthodd y cwmni yn 2001. Mae Llyfr Ffôn BT yn annibynnol o Yellow Pages. Cyhoeddir Yellow Pages gan Yell Ltd, cwmni ar wahân i BT.