printable  version

Defnyddiwr Unigol

Mae fersiwn defnyddiwr unigol Phone Disc™ yn cynnwys oddeutu 15 miliwn rhif ffôn ar draws y Deyrnas Unedig (yn cynnwys rhifau cwmnïau trwyddedig eraill ac Ynysoedd y Sianel)1.

Delfrydol fel ffynhonnell wybodaeth, mae’r CD-Rom yn gallu chwilio am bobl neu fusnesau gyda dulliau rhyngweithiol soffistigedig:

  • Canfod codau cenedlaethol a rhyngwladol
  • Cyfeiriadur personol yn storio rhifau rheolaidd ar wahân
  • Deialu rhifau’n otomatig ar ôl cael hyd iddynt2
  • Cyfeiriadur rhifau defnyddiol a thudalennau cymorth syml
  • Cymorth technegol di-dâl gan dîm BT
  • Adnoddau argraffu / llwytho cofnodion unigol i mewn i becynnau eraill (megis MS-Word, Excel neu Access)

Mae’r fersiwn unigol yn cynnwys diweddariadau o gronfa ddata OSIS BT, gyda thrwydded 12 mis yn caniatáu llwytho data newydd bob chwarter.

Ar ôl gosod Phone Disc gallwch ddechrau defnyddio’r pecyn gyda chredydau chwilio, un ai drwy wefan neu wrth alw Tîm Cymorth Cwsmeriaid BT ar 0800 833400

  1. Yn cynnwys rhestrau cyfeiriadur ar gyfer pecynnau nid llais (hynny yw, nid rhifau heb eu rhestru yn y cyfeiriadur a rhestrau ymholiadau llais yn unig)
  2. Angen cysylltiad modem a ffôn ar eich PC