Fersiwn Rhwydwaith
Mae fersiwn rhwydwaith Phone Disc™ yn cynnwys tua 15 miliwn rhif ffôn ar draws y Deyrnas Unedig (yn cynnwys rhifau cwmnïau trwyddedig eraill ac Ynysoedd y Sianel1.
Delfrydol fel ffynhonnell wybodaeth, mae’r CD-Rom yn gallu chwilio am bobl neu fusnesau gyda dulliau rhyngweithiol soffistigedig.
Mae’r nodweddion yn cynnwys:
- Canfod codau cenedlaethol a rhyngwladol
- Cyfeiriadur personol yn storio rhifau rheolaidd ar wahân
- Galw rhifau’n otomatig ar ôl cael hyd iddynt2
- Cyfeiriadur rhifau defnyddiol a thudalennau cymorth syml
- Cymorth technegol di-dâl gan dîm BT
- Adnoddau argraffu / llwytho cofnodion unigol i mewn i becynnau eraill (megis MS-Word, Excel neu Access)
Mae’r fersiwn rhwydwaith yn cynnwys diweddariadau o gronfa ddata OSIS BT, gyda thrwydded 12 mis yn caniatáu llwytho data newydd bob chwarter.
- Yn cynnwys rhestrau cyfeiriadur ar gyfer pecynnau nid llais (hynny yw, nid rhifau heb eu rhestru yn y cyfeiriadur a rhestrau ymholiadau llais yn unig)
- Angen cysylltiad modem a ffôn ar eich PC