Bydd 8 o bob 10 person yn defnyddio Llyfr Ffôn BT i gael hyd i'r rhifau angenrheidiol 3 – felly a ddylai eich busnes fod ynddo?
“Rydym wedi denu 85% o'n cwsmeriaid wrth osod yr hysbyseb, mae'n sicr wedi bod yn werth hysbysebu yn y Llyfr Ffôn ac wedi helpu i sefydlu'r busnes.”
Cyfarwyddwr
A.W. Gas Ltd, Stoke-on-Trent
Defnyddir Llyfr Ffôn BT gan 8 o bob 10 person, a dosberthir i bron bob cartref a busnes yn y Deyrnas Unedig 1 - sef dros 20 miliwn 2 cyfeiriad drwy'r wlad. Felly, mae'n arf hysbysebu pwerus fydd yn eich helpu i gyrraedd potensial gwsmeriaid yn eich ardal.
Opsiynau hysbysebu
Erbyn hyn mae Llyfr Ffôn BT yn cynnig mwy o ffyrdd nag erioed i gyrraedd darpar gwsmeriaid:
Cyfeiriadur dosbarthol
Hysbysebu eich busnes yn ein cyfeiriadur dosbarthol lliw. O arlunwyr i warchodwyr, bydd hysbyseb yn eich cysylltu â chwsmeriaid newydd.
A-Z Busnes
Gallai hysbyseb yn yr A-Z Busnes helpu hyd yn oed mwy o gwsmeriaid i'ch canfod – pobl sydd eisoes yn eich adnabod ond yn methu cofio eich rhif.
A-Z Preswyl
Mae A-Z Preswyl y Llyfr Ffôn yn lle unigryw i hysbysebu eich busnes – hysbysebion baner yn codi ymwybyddiaeth o'ch busnes yn yr ardal.
Mae 168 rhifyn o'r Llyfr Ffôn, sy'n hwyluso targedu cwsmeriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Gallwch ddewis maint a chynnwys yr hysbyseb - gyda'n stiwdio yn helpu i ddylunio hysbyseb deniadol, effeithiol ac addas ar gyfer eich busnes.
Cysylltwch â ni heddiw i drafod hysbysebu yn y Llyfr Ffôn BT.
"Mae'n cynhyrchu nifer uchel o alwadau bob mis, gyda 70% yn arwain at fusnes newydd. Mae wedi gweithio'n dda iawn."
Rheolwr Marchnata
Paul Rooney Solicitors, Lerpwl
Hysbysebu eich busnes ar Google, Offer Chwilota Blaenaf y DU
Gall hysbysebu ar Google gymryd amser a bod yn gymhleth. Mae BT Search Marketing yn lleihau'ch gwaith o farchnata ar-lein drwy gynnig i chi wasanaeth hysbysebu Talu Fesul Clic (Pay Per Click) wedi ei reoli'n llawn. Gwell na hynny, gan fod gennym awdurdod ailwerthu dan drefn 'Google Adsell Reseller', mae gennym y gallu i gyflwyno eich busnes i nifer fawr o bobl sy'n chwilio am gynnyrch a gwasanaethau fel eich rhai chi.
Dewiswch gyllideb fisol sy'n cwrdd â'ch anghenion ac fe wnawn ninnau greu Ymgyrch wedi ei theilwrio i ddenu Cwsmeriaid newydd i'ch busnes. Gan fod tua 30 miliwn o oedolion yn chwilota'r Rhyngrwyd bob dydd2, ni fu erioed well amser i hyrwyddo'ch busnes ar-lein.
